|
Phone
+44 (0)1453 511 210
Pan gawn ein contractio i drefnu arddangosfa i chi byddwn yn ymwybodol pa mor bwysig yw llwyddo’r tro cyntaf, a hynny bob tro. Bydd eich ôl-gerbyd arddangos yn tynnu sylw pawb yn y sioe; bydd delwedd eich cwmni’n cael ei harddangos yn amlwg drwy gyfrwng graffeg ysgubol a chyda chymorth ychwanegiadau dethol.
Rydym ni’n gontractwyr arddangos sy’n cynnig pecyn cyfan i chi: dylunio, adeiladu, rheoli ac arddangos eich ôl-gerbyd. Gallwn ni drefnu’r safle i chi, yn ogystal â blodau, a hyd yn oed y personél. Rydym ni’n sicrhau presenoldeb diffwdan mewn unrhyw sioe, fel bod modd i chithau ymlacio a mwynhau’r manteision.
Gallwn ychwanegu ymhellach at eich ôl-gerbyd arddangos drwy ychwanegu gazebo steilus. Gellir defnyddio hwn i arddangos cyfarpar y mae’n rhaid ei gadw’n ddiogel rhag yr elfennau neu i estyn eich ardal letygarwch. Beth bynnag yw eich gofynion arddangos, gallwch fod yn sicr bod gan Mobex Ltd yr wybodaeth a’r cyfarpar ar eich cyfer.
Rydym hefyd yn llunio ac yn adnewyddu ôl-gerbydau arddangos.
Felly dewiswch Mobex Ltd, un o brif gontractwyr arddangos y wlad, ar gyfer eich holl anghenion arddangos a chroesawu symudol. |